Cofrestru Busnesau Bwyd

Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd yr awenau mewn busnes sy'n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol. Dylech wneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau masnachu neu cyn i weithrediadau bwyd ddechrau.

Wrth fynd ati i gofrestru eich busnes, mae’n bosibl y byddwch yn dod ar draws ambell derm arbenigol. Rydym ni wedi disgrifio’r rhain isod:

Gweithredwr busnes bwyd

Y gweithredwr yw'r person, yr elusen neu'r cwmni sy'n gwneud y penderfyniadau am y busnes bwyd. Nhw sy'n penderfynu beth mae'n ei weini a sut mae'n gweithredu.

Sefydliad

Y sefydliad yw lleoliad neu safle eich busnes bwyd. Os yw'n fusnes bwyd symudol, defnyddiwch y lleoliad lle mae'n cael ei storio dros nos fel rheol. Os yw'r busnes yn gweithredu o gyfeiriad cartref, nodwch y cod post hwnnw.